Cyngor Tref Pontardawe sy'n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni am sicrhau bod
cymaint â phosibl o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn
yn golygu y dylech fod yn gallu:
- chwyddo cynnwys y sgrin hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu o'r golwg
- symud o amgylch mwyafrif y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- symud o amgylch mwyafrif y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar fwyafrif y wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod cynnwys y wefan mor hawdd â phosibl ei ddeall.
Gallwch gael cyngor ar AbilityNet i'ch helpu i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan?
Rydym yn gwybod nad yw rhannau o'r wefan hon yn hollol hygyrch:
- ni allwch addasu uchder llinellau neu'r gofod rhwng y geiriau/llythrennau
- nid yw pob dogfen PDF yn hollol hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- ni allwch neidio at y prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- mae yna gyfyngiad ar ba mor bell y gallwch chi chwyddo'r map ar ein tudalen 'cysylltwch â ni'
Beth os na allwch chi gael mynediad at rannau o'r wefan hon?
Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall neu recordiad sain, defnyddiwch y manylion ar ein tudalen ‘cysylltwch â ni’. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 15 diwrnod gwaith.
Riportio trafferthion hygyrchedd yn ymwneud â'r wefan hon
Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon drwy'r amser. Os dewch ar draws unrhyw broblemau sydd ddim wedi eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn cyflawni ein gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â'r clerc.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltwch â ni
Clerc, Mr Kevin Bowen
Cyfeiriad: 18 Bryngorwel, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1SG
E-bost: clerk@llanwiniocommunitycouncil.com
Ffoniwch: 01267 230413
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Tref Pontardawe wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Ar hyn o bryd, mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau sydd wedi eu rhestru isod lle nad ydym yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Mae'r cynnwys sydd wedi'i restru isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
Baich Anghymesur
Amherthnasol.
Cynnwys nad yw yng nghwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Amherthnasol.
Sut profwyd y wefan hon
Profwyd y wefan hon â llaw ac yn awtomatig cyn llunio'r datganiad hwn. Vision ICT Ltd oedd yn gyfrifol am wneud y profion.
Paratowyd y datganiad hwn ym mis Medi 2020.