William Evans (22 Ebrill 1883 -16 Gorfennaf 1968), adnabyddir yn well fel Wil Ifan, ei enw barddol. Bardd oedd Wil Ifan a bu yn Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1947 : 1950.
Roedd yn fab i Dan Evans, Gweinidog gyda'r Annibynwyr a Mary. Cafodd ei eni yng Nghwmbach a'i addysgu ym Mhrifysgol Cymru Bangor a coleg Mansfield, Rhydychen.
Dilynodd troed ei dad a mynd yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Cafodd ei ordeinio yng Nghapel yr Annibynwyr yn Nolgellau yn 1906 a bu yno am dair blynedd.
Tra yn Nolgellau, cwrddodd a'i ddarpar wraig Nesta Wyn Edwards, a'u priodwyd yno ar 28 o Ragfyr 1910. Cawsant pedwar o blant.
Yn 1909 daeth yn Weinidog yn Mhenybont, ac onibai am yr amser pan oedd yn Weinidog yn Eglwys yr Annibynwyr yn Heol Richmond, Caerdydd rhwng 1916 a 1925, ym Mhenybont dreuliodd gweddill ei oes.
Fel pob Archdderwydd, roedd wedi ennill un o brif wobrau barddol yn Eisteddfod Genedlaethol, ennillodd y Goron yn Y Fenni yn 1913, Birkenhead yn 1917 (pan ennillodd Hedd Wyn y Gadair wedi iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Byd cyntaf)ac ym Mhwllheli yn 1925. Bu farw ym Mhenybont yn 1968 an mae wedi ei gladdu yn Rhydymain, Sir Feirionydd.