Merched Y Wawr - Cangen Gronw
Mudiad gwirfoddol, amhleidiol i wragedd yng Nghymru yw Merched y Wawr. Ei nod yw hyrwyddo diwylliant Cymreig, addysg a’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cangen Gronw o Ferched y Wawr yn cyfarfod ar nos Iau olaf y mis yn Festri Capel Ramoth yng Nghwmfelin Mynach. Mae’n tymor yn dechrau ym mis Medi ac yn dod i ben ym mis Mai. Gan amlaf rydym yn gorffen ein rhaglen gyda gwibdaith a phryd o fwyd!
Rydym yn croesawu aelodau newydd. Mae’n gyfle gwych i gael clonc a dished fach o de mewn awyrgylch gartrefol a hwylus. Os carech ymuno â’r gangen mynnwch sgwrs fach gyda un o’n haelodau neu cysylltwch gyda’n llywydd,
Rydym yn ceisio darparu rhaglen eang ac amrywiol fel bod gennym rywbeth at ddant pawb.