Cyflwyniad o waith y Cyngor

Mae'r Cyngor Cymuned yn cynrychioli yr haenen o lywodraeth sydd agosaf at y bobol, ac mae yn atebol i'r etholwyr lleol. Mae'r Cyngor yn cynnwys saith cynghorydd etholedig ac mae yn gweithredu yn unol â pwerau a dyletswyddau statudol.

Lan hyd 1974 galwyd y Cyngor yn Gyngor Plwyf Llanwinio, ond yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1972 fe elwir yn Gyngor Cymuned Llanwinio,

Mae'r Cyngor yn atebol i bobl lleol ac mae ganddo ddyleltswydd i gynrychioli buddion pob rhan o'r gymdeithas yn gyfartal. Gwaith y Cyngor yw i hyrwyddo yr ardal leol, cynrychioli ei fuddianau a cefnogi gwaith grwpiau cymunedol lleol. Mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod y perspectif lleol yn cael ei ystyried pan fod penderfyniadau sydd yn effeithio y gymuned yn dod o'i flaen.

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Cyngor Sir Caerfyrddin i gynrychioli buddiannau'r gymuned.


Mae Cyngor Cymuned Llanwino yn darparu'r gwasanaethau canlynol:

 

Talu am y trydan a ddefnyddir yn Neuadd Gymunedol Llanwinio

Hysbysfyrddau ar gyfer gwybodaeth cyhoeddus

Seddu cyhoeddus a llochesu bws
Goleuadau stryd

Carreg goffa'r rhyfel

Talu am y dwr â ddefnyddir yng nghae chwarae Blaenwaun