Amdanom Ni

Y Gymuned

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Cwmbach, Blaenwaun, Cwmfelin Mynach, Llanwinio a rhan o Gelliwen. Mae'n ardal wledig sydd yn gorwedd rhyw saith milltir i'r gogledd o San Clêr a wyth milltir i'r gogledd ddwyrain o Hen Dy Gwyn yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r ardal tua 16 milltir o'r brif dref agosaf, sef Caerfyrddin.

Yn 1844 roedd poblogaeth yr ardal yn 1035. Erbyn amser y cyfrifiad yn 2011 roedd y boblogaeth wedi cwympo i 448. O'r 448 roedd 317 dros 16 oed, 173 ohonynt rhwng 16 â 65, a 144 dros 65. Roedd 225 o'r boblogaeth yn wrywaidd a 223 yn fenywaidd. Yn ôl y cyfrifiad roedd 259 yn medru siarad Cymraeg, 247 yn gallu darllen Cymraeg a 228 yn ysgrifennu yn y Gymraeg.

Roedd cyfrifiad 1844 yn dangos fod 260 0 dai ar gyfer y boblogaeth ond erbyn 2011 roedd hyn wedi cwmpo i 161.

Amaethyddiaeth oedd prif waith yr ardal yn 1844, ond erbyn 2011, o'r 236 o bobol â
gyflogir dim ond 67 a weithiau yn amaethyddiaeth, 40 o ddynion a 27 o wragedd.

Llanwinio
Yn Llanwinio mae eglwys y plwyf, Eglwys Sant Gwynno. Cafodd yr eglwys ei ail adeiladu tua 1844. Mae'r fynwent yn un hynod dros ben, gan iddo fod mewn ffurf cylch, un o ychydig sydd ar ôl ym Mhrydain. Mae'r fynwent yn dyddio nôl i amser y Celtiaid.
Credai'r Celtiaid bod y cylch yn rhoi anfarwoldeb i'r rhai â gladdwyd o'i fewn, a bod codi'r fynwent yn uwch na'r tir o'i gwmpas yn cadw'r meirw yn sych.

Mae yna garreg goffa yn Llanwinio i goffhau tri milwr o'r ardal â laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r Neuadd Gymuned yn Llanwinio.

Mae'r neuadd/gegin ar gael ar gyfer defnydd preifat e.e partion penblwydd, bedyddio a.y.b. Does dim tâl i drigolion plwyf Llanwinio ond mae croeso i bobl rhoi cyfraniad os dymunir. Mae'n bosib i bobl o du allan y plwyf i hurio y neuadd/gegin, fodd bynnag fe godi'r tâl am y digwyddiad hyn. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mr T C Henry
rhif ffôn 01994484239.

Blaenwaun
Pentre bach yw Blaenwaun, rhyw 7 milltir o San Cler. Yn y pentre mae'r unig dy tafarn sydd ym mhlwyf Llanwinio.

Blaenwaun oedd yn gartref i'r swyddfa bost lleiaf yng Nghymru, ond yn mesur 5m o hyd a 2.9m o led.

Yn nechrau'r 1960 fe symudwyd y busnes i leoliad newydd ym Mlaenwaun. Bu'r hen swyddfa yn wâg hyd 1991 pan gynnigwyd yr adeilad i'r Amgueddfa Werin yn Sain Fagan

Y flwyddyn ganlynol fe symudwyd yr adeilad i'r amgueddfa â gellid ei gweld yno heddiw, fel rhan o bentref, ger siop y pobydd a'r teilwr. Mae'r swyddfa bost wedi ei osod allan fel y byddai wedi edrych yn ystod yr Ail Ryfel byd, yn wahanol i unrhyw adeilad arall yn yr
amgueddfa.

Roedd swyddfeydd post yn chwarae rhan bwysig ym mywyd cymunedodd trwy Gymru.

Erbyn y 50au roedd gan y rhan fwyaf o bentrefi eu swyddfa bost ei hun, o le y byddai'r post yn cael ei ddosbarthu, parseli yn cael eu casglu a pobol yn cwrdd i gael sgwrs. Yn anffodus, erbyn heddiw nid oes gan blwyf Llanwinio swyddfa bost o gwbwl, er bod swyddfa bost symundol yn galw yn Mlaenwaun yn wythosol.

Ym Mlaenwaun mae'r unig gae chwarae yn mhlwyf Llanwinio.

Cafodd Capel Moriah ei godi cyn 1828.

Cwmbach
Blaenwaun PhotoPentre bach yw Cwmbach, rhyw ddwy filltir o Llanwinio. Mae'r afon Sien yn rhedeg trwy'r pentref sy'n cynnwys 12 ty, Capel a'r hen ysgol.

Capel Methodist yw Capel y Graig. Cafodd ei adeiladu yn 1756 a'i helaethu yn 1774 a'i adnewyddu yn 1808 a 1828. Does dim mynwent gan y Capel felly maent yn defnyddio'r fynwent yn Eglwys Llanwinio.

Agorodd yr ysgol yng Nghwmbach yn 1867 a cau yng Nghorffennaf 2003. Ar
ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd dros gant o blant yn mynychu'r ysgol ond erbyn
2003 roedd y rhif wedi cwympo i 12. Slawer dydd, byddai'r plant yn cerdded neu
farchogaeth i'r ysgol. Roedd yr ystafelloedd dosbarth lan llofft tra bod
stablau i'r ceffylau odanynt.

Cwmfelin Mynach
Pentre bach yw Cwmfelin Mynach gyda poblogaeth o 64. Mae'r enw Cwmfelin Mynach wedi deillio o'r faith fod melin wedi bod yno yn ystod yr Oesoedd Canol. Defnyddiau'r mynachod yr Afon Gronw, sydd yn rhedeg drwy ganol y pentref, i bweru'r felin. Sylfaenwyd y felin yn y chweched ganrif gan Fynachod Cistercian neu Whitefriars, a rhain rhoddodd yr enw i'r dref gerllaw, sef Whitland.

Cafodd Capel Ramoth yng Nghwmfelin Mynach ei adeiladu yn 1775, ac mae yno wasanaethau wythnosol.