Cae Chwarae Blaenwaun

Mae Cyngor Cymuned Llanwinio yn falch i gyhoeddi ei bod wedi gallu prynu cae chwarae Blaenwaun (cae chwarae Tom Blaentrafle) oddi wrth ei gyn perchnogion. Mae hyn yn sicrhau dyfodol y cae i’r gymuned ac yn galluogi’r Cyngor Cymuned i gynllunio am ei ddyfodol yn yr hir dymor. Mae’r Cyngor Cymuned yn cynllunio yn barod i osod cyfarpar chwarae newydd yn lle chwarae’r plant. Fe fyddent hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau oddiwrth drigolion Llanwinio am beth arall hoffent weld yn digwydd neu unrhyw gynnig i wirfoddoli efo cynnal a chadw a datblygiad o’r cae.